AC(4)2011(6) Papur 6

Dyddiad: 24 Tachwedd 2011
Amser:
    9:30-11:30
Lleoliad: 
Swyddfa’r Llywydd
Enw a rhif cyswllt yr awdur:
  Carys Evans, est 8598

Portffolios Comisiwn y Cynulliad

1.0    Diben a chrynodeb

1.1     Mae’r papur hwn yn gwahodd Comisiynwyr y Cynulliad i roi diweddariad ar lafar am eu portffolios.  

Portffolio

Comisiynydd

Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, cyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Cyfreithiol.

Rosemary Butler AC

Y gyllideb, llywodraethu, gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, a chysylltiadau â’r Bwrdd Taliadau. Gwella Gwasanaethau i Aelodau, cymorth cyflogaeth a datblygu proffesiynol ar gyfer Aelodau a’u staff.    

Angela Burns AC

TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad, cyfleusterau a chynaliadwyedd.  Y Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad.

Peter Black AC

Gwasanaethau addysg, cyswllt cyntaf, arlwyo a diogelwch. Swyddogaethau statudol y Comisiwn mewn perthynas chydraddoldeb a Rhyddid Gwybodaeth.

Sandy Mewies AC

Ymgysylltu a chyfathrebu â’r dinesydd, allgymorth cenedlaethol a rhyngwladol. Swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r Gymraeg.

Rhodri Glyn Thomas AC

Er nad yw David Melding, y Dirprwy Lywydd, yn aelod ffurfiol o’r Comisiwn,cytunwyd y bydd yn cefnogi’r Comisiwn drwy ganolbwyntio ar y Pierhead fel canolfan ar gyfer datblygu a thrafod yn y Cynulliad, ac ar gysylltiadau â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’r rôl hon.